Penrhos Home PagePenrhos home page site mapSite Map Permaculture Cymru

Ffridd

Traditional Welsh Agro-Forestry

Chris Dixon 2012

prif ffynhonell llafar: Nesta Wyn, Abergeirw: primary oral source

cyfieithu: Carol Nixon and Dana Edwards translating

["ff" in welsh is the equivalent of the english "f". "Dd" is pronounced as the "th" in the english "the",]

Mae'r term Ffridd yn ymwneud â defnydd penodol o'r tir ac mae'n ymddangos ei fod yn weddol unigryw i dde Gwynedd (neu'r hen Feirionydd). Cyn belled ag y gwelaf i does dim cyfieithiad uniongyrchol i'r Saesneg o'r ffordd yma o ddefnyddio'r tir. Paramaeth 'Zone (Parth) 4' yw'r peth agosaf, sef bwyd a thanwydd.
Ffridd relates to a particular land use which appears to be fairly unique to south Gwynedd (or old Meirionydd). As far as I can see it has no direct translation into an english term for a comparable land use. In fact, Permaculture design provides us with the closest definition, namely zone 4 fuel and forage.
Gall ffermydd mynydd yr hen Feirionnydd ddangos parthau clir. Roedd tiroedd y ffermydd hyn fel arfer yn ymestyn o'r afon ar lawr y dyffryn i fyny ochrau serth y dyffryn i gopaon y grib neu'r mynydd. Mae'r adeiladau fferm fel arfer yn ymddangos ar y llethrau isaf, yn aml ar newid yn y cyfuchlin. Mae'r fferm wedi ei amgylchynu gan gaeau sydd wedi eu trin â thail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid dros y gaeaf ac felly yn cynhyrchu gwell porfa. Mae'r caeau yn cael eu rhannu gan waliau a wnaed o glirio cerrig o'r caeau hynny. Yn dibynnu ar faint o gerrig a gafwyd yn y ddaear, gall y caeau fod yn fach gyda llawer o waliau, neu yn fwy gyda llai o waliau. Defnyddir y caeau er mwyn dod a'r anifeiliaid yn nes at y fferm dros y gaeaf ac ar gyfer wyna yn y gwanwyn cynnar. Hill farms of old Meirionydd may demonstrate clear zoning. The farm land usually extended from the river boundary on the valley floor up the steepening valley sides to the summits of the ridge or mountain. The farm buildings usually appear on the lower slopes, often at a change in contour. The farm is surrounded by fields which have seen muck returned from wintered animals and hence tend towards better quality fodder grasses. The fields are delineated by walls made from field clearances of stones. Depending upon the amount of stone in the ground, the fields may be small with many walls, or larger with fewer walls. The fields are used to bring animals in closer to the farm for the winter and for lambing in the early spring.
O dan y caeau, tuag at yr afon mae'r dolydd. Gwair a gynhyrchwyd yma yn bennaf gyda pheth pori, yn enwedig gan wartheg. Ynghyd â'r caeau mae'r rhain yn ffurfio adnodd prif gnwd anifeiliaid Parth 3. Below the fields, towards the river are the dolydd (meadows). These were mainly cut for hay with some grazing, particularly of cattle. Together with the fields these form a zone 3 maincrop livestock resource.
Uwchben y fferm a'r caeau mae yna wal derfyn, yn aml yn agos at gyfuchlin, sy'n nodi cychwyn y ffridd. Ymhellach i fyny'r llethr mae wal mynydd sy'n nodi dechrau'r pori mynydd a diwedd y ffridd. Yn yr haf yn bennaf y defnyddir y tir hwn ar gyfer pori. Above the farm and fields is a boundary wall, often close to contour, that marks the beginning of the ffridd. Further up slope is the mountain wall that marks the beginning of the mountain grazing and the end of the ffridd. The mountain grazing is used predominantly in the summer.

Mae'r llun yn dangos gweddillion o'r hen ffridd, sydd ddim wedi cael ei reoli am cryn dipyn. Mae yna dolydd i'r blaen yn y llun, wedyn y caeau o gwmpas adeiladau y fferm yn y ganol. Mae'n bosib gweld y ffridd fel parth yn rhedeg ar draws y bryn efo y porfa mynydd o'i uwchben. Mae'r ffridd yma wedi colli y rhan fwyaf o ei goed; mae yna eithin ar y chwith a'r lliw glas ydy clychau'r gog, sydd yn dangos roedd yna coed yno rhywbryd yn y gorffennol.

The picture shows a remnant of old ffridd which has not been managed for quite some time. The meadows are in the foreground then the fields surrounding the farm buildings in the centre. You can see the ffridd like a zone running across the hill with mountain grazing above the ffridd wall. This ffridd has lost most of its trees; there is gorse on the left; the blue is bluebells, showing that there were trees here sometime in the past.

Mae ffridd sy'n cael ei reoli'n dda yn edrych fel prysgwydd agored gyda rhai coed aeddfed. Mae'n ffurfio gwagle defnyddiol rhwng y caeau a ddefnyddir ar gyfer pori yn y gaeaf a'r mynydd lle mae'r anifeiliaid yn pori yn yr haf. Roedd mamogiaid a'r wyn ifanc yn cael eu symud o'r caeau i'r ffridd ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau'r haf. Yma roeddent yn pori'r mannau agored gan ddefnyddio'r gwahanol goed a llwyni. Pe delai rhew hwyr byddai'r mamogiaid a'r wyn yn elwa o'r lloches ychwanegol a ddarparwyd gan yr haen brysgwydd, yn enwedig yr eithin. Pan fyddai'r tywydd yn ddigon dibynadwy, byddai'r anifeiliaid yn cael eu symud i fyny i'r mynydd. Yn yr hydref byddai'r un broses (ond i'r cyfeiriad arall) yn cael ei gweithredu. Pan fyddai ychydig iawn o dir pori ar ôl i fwydo'r anifeiliaid ar y mynydd byddai'r anifeiliaid yn cael eu dwyn yn ôl i lawr i'r ffridd lle byddent yn pori ar y mannau agored unwaith eto. Wrth i'r tywydd waethygu byddent yn cael eu tywys yn nes at yr adeilad fferm, yn ôl i mewn i'r caeau. Well managed ffridd has the appearance of open scrub with some mature trees. It forms a usefull buffer zone between the wintering of livestock on the fields and the summer grazing of mountain pasture. Ewes with young lambs were moved up from the fields onto the ffridd in late spring or early summer. Here they grazed the open spaces and browsed the various tree and shrub species. If the weather was still undecided and there were late frosts, the ewes and lambs benefit from the additional shelter provided by the shrub layer, often gorse. When the weather was sufficiently reliable, the animals would be moved up onto the mountain. Autumn saw the reverse of the process; with the mountain grazed to a close lawn and little left in the way of fodder, the animals would be brought back down into the ffridd where they would graze the open areas again and take advantage of browse. As the weather worsened they would be brought closer to the farm building, back into the field system.
Byddai ffermwyr yn ymfalchïo yn eu ffriddoedd a'u rheolaeth. Mae'r ffridd, fel y mwyafrif o diroedd, yn ceisio dilyn y drefn naturiol a datblygu i fod yn goedwig. Drwy ddewis yr amseru ar gyfer symud anifeiliaid i, ac oddi ar, y ffridd, pa mor hir yr oeddent yn cael pori yno, a nifer yr anifeiliaid a borai yno, roedd y ffermwr yn medru rheoli hyn gan ffafrio mwy o laswellt neu annog mwy o goed. Wrth i'r coed dyfu roedd modd eu torri ar gyfer eu defnyddio fel adnodd i greu pyst giatiau, coed ar gyfer ysguboriau ac ati. Byddai ffermwyr hefyd yn torri canghennau unigol neu gynhyrchu mangoed ar gyfer clwydi a choed tân. Byddent hefyd yn manteisio ar y cnydau aeron amrywiol ar y ffridd. Farmers would take pride in their ffridd and its management. Ffridd, as most land, is attempting to follow the natural succession and tip into forest. By choosing the timing for when animals were moved into and off the ffridd , how long they were left on and how many there were, a farmer was able to moderate this tipping point, favouring more grass or encouraging more trees. As trees matured they might be felled for their material use (gate posts, timber for barns and the like). Farmers would also remove individual branches or produce some coppice for hurdles and firewood. Advantage would also be taken of the various berry crops on the ffridd.
Roedd amrywiaeth o rywogaethau. Roedd llawer o eithin a reolwyd drwy ei losgi'n achlysurol. Yn weddol uchel mewn protein (tua 7%) a blasus yn ystod yr hydref a'r gaeaf roedd yn cael ei bori gan ddefaid, yn enwedig mewn gaeafau caled, ac mae rhywfaint o dystiolaeth ei fod yn cael ei reoli a'i dorri ar gyfer porthiant anifeilaidd. Yn yr haf mae'n chwerw, cynhyrchu blodau ac yn cael ei wrthod gan yr anifeiliaid a hyn yn caniatáu i'r eithin gynhyrchu hadau. Roedd eithin hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffyrnau bara gan ei fod yn llosgi'n gyflym. Species are mixed, following those of a natural succession. Gorse was significant but managed by occasional burning. Being reasonably high in protein (around 7%) and tasty during the autumn and winter it is browsed by sheep, particularly in hard winters, and there is some evidence that it was managed and cut for animal fodder; it becomes bitter in the summer as it produces flowers and is rejected by the animals, hence allowing the gorse to produce seed. Gorse was also favoured as a fast burn fuel for bread ovens.

Roedd gwahanol rywogaethau o goed yn cynnwys drain, yn ddu a gwyn, cerddin, cyll, ynn a derw, i gyd yn cynnig gwahanol opsiynau ar gyfer cynhaeafu lled-wyllt.

Gan nad oedd y ffriddoedd yn cael unrhyw dail neu faetholion ychwanegol eraill, a chan fod y pori yn achlysurol, gallai'r ddaear fod yn gyfoethog iawn o ran rhywogaethau.

Tree species include thorn, both black and white, Rowan, hazel, ash and oak, all offering various options of semi-wild harvests.

As ffridd did not receive any muck or other additional nutrients and as the grazing was sporadic, the ground layer can be very species rich.

Ffridd hyfryd i'r de o'r A470 rhwng Cross Foxes a Bwlch Y Ddrws Oer; Mae yna cymysg o goed a porfa, yn gynnwys drain (draenen wen ydy'r un gyda'r flodau gwynion). Dw i'n meddwl fuasai'r hen ffermwyr yn dweud bod yna ormod o goed i'r dde, a gormod o redyn i'r chwith. Yn y gorffenol, pan cafodd y ffridd ei ddefnyddio a gwerthfawrogi, roedd yna anifeilaid drwm fel gwartheg a cheffylau (gweithio) yn pori yma; dydy rhedyn dim yn licio cywasgedd felly fuasai lai ohono.

Beautiful ffridd to the south of the A470 between Cross Foxes and the Pass of the Cold Door, showing a mix of trees and grazing, including thorn (the white blossom is hawthorne). Older farmers would say that there are too many trees on the right and too much bracken to the left. When the ffridd was used and valued, heavy animals such as cattle and working horses would also graze here; bracken does not like compression and so there would have been less of it.

Ers cyflwyno cymorthdaliadau ac felly economi arian yn y cymunedau ucheldir gwledig mae pwysigrwydd y ffridd wedi dirywio. Mae argaeledd glo ac olew a thrydan, peiriannau trwm a gwrteithiau wedi golygu bod y ffridd wedi ei drawsnewid yn aml yn dir pori, y coed yn cael eu diwreiddio a cherrig mawryn cael eu pentyrru'n daclus mewn un tomen. Neu caniatawyd i'r ffiniau rhwng caeau a ffridd, a ffridd a mynydd, ddadfeilio, ac felly aeth y ffridd yn estyniad o'r caeau neu'r mynydd. Rhoddwyd grantiau ar gyfer plannu coed ac arweiniodd hyn at droi ffriddoedd yn blanhigfeydd neu ffensio'r tir i'w adfywio. Effaith gwahardd anifeiliaid sy'n pori o'r tiroedd hyn yn aml yw'r carped o glychau glas a geir yno yn y gwanwyn . Yn sgil y newid o'r modd y rheolwyd y tir yn y gorffennol mae nifer o rywogaethau oedd yn caru'r haul wedi diflannu. Since the introduction of subsidies and hence a cash economy into the upland rural communities, the importance of ffridd declined. The availability of coal and oil heating and electricity, heavy machinery and fertilisers meant that ffridd was often converted to grazing, the trees being grubbed out and large stones usually put tidily into one heap. Or the boundaries between field and ffridd and ffridd and mountain were allowed to fall into disrepair, so the ffridd became just and extension of the fields or of the mountain. Grants for tree planting and natural regeneration meant some old ffridd was turned into plantation or fenced off to regenerate; the act of excluding grazing animals often led to a flush of bluebells in the first spring. The alteration to the past management meant many sun loving pasture species disappeared.
O dan drefn Paramaeth dylai'r mynydd yn wir fod yn anialwch, y ffridd yw parth 4 gyda chaeau a dolydd yn barth 3. Os ystyrir y fferm fel y niwclews ar gyfer cantref newydd, gydag anheddau effaith isel yn cael eu gosod yn y caeau, pob annedd â'i pharth 1 a 2 ei hunan, yna ddod y 'prif gnwd' yn nhermau Permaculture, yn bobl. Mae adeiladau'r fferm yn darparu isadeiledd sylfaenol gyda rhwydweithiau ffyrdd presennol, cyfathrebu a chysylltiadau trydan, a chanolfan adnoddau a rennir ar gyfer y gymuned newydd. In permaculture design terms, the mountain should really be wilderness, ffridd then is quite obviously zone 4 with fields and dolydd as zone 3. If we consider the farm as the nucleus for a new cantref, with low impact dwellings appropriately placed in the field systems, each with their own zones 1 and 2, then the maincrop becomes the nurture and cultivation of human beings. The farm buildings provide a basic infrastructure with existing road networks, communications and electricity connections, and shared resource centre for the new community.

Gweddillion ffridd i'r de o'r A470 ar y ffordd i lawr o'r bwlch at Dinas Mawddwy. Fel o'r blaen, caeau a dolydd o gwmpas y ty, wedyn y hen ffridd ac wedyn y mynydd. Gan roedd yna coed ar y ffridd yn barod, pan daeth gymorthdal am blannu coed, plannodd rhai o ffermwyr mwy o goed ar eu ffridd. Cafodd bytholwyrdd eu blannu yma, ond dydy nhw ddim wedi tyfu yn dda.

Ffridd remnant to the south of the A470 on the road down from the pass towards Dinas Maddwy. As before, fields and meadow, then the old ffridd and then the mountain. Bacause there were trees on the ffridd already, when grants came in to plant trees, some farmers planted more trees on their ffridd. Some evergreens were planted here but they didn't grow well.

 

Penrhos Home PagePenrhos home page site mapSite Map Permaculture Cymru